Casnewydd yn penodi rheolwr
- Published
image copyrightGetty Images
Mae cyn chwaraewr canol cae Iwerddon, John Sheridan, wedi ei benodi yn rheolwr newydd ar Gasnewydd.
Fe fydd yn olynu Terry Butcher wnaeth adael y clwb ddydd Iau.
Mae Casnewydd ar waelod yr Ail Adran.
"Rwy'n hyderus pe bai'r chwaraewyr a'r cefnogwyr yn gweithio gyda'i gilydd fe allwn helpu'r garfan i ddringo'r tabl.2
Mae Sheridan wedi rheoli Oldham, Chesterfield a Plymouth Arygle.
Bydd ei gytundeb gyda Chasnewydd dyn para tan ddiwedd y tymor.