Ymchwiliad i farwolaeth babi mis oed
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i farwolaeth babi mis oed yn Senghennydd.
Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw i Ffordd Commercial am 10:40 fore Gwener.
Cafodd y ferch fach ei chludo gan yr ambiwlans awyr i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd, lle cafwyd cadarnhad yn ddiweddarach ei bod wedi marw.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: "Mae swyddogion yn cynnal ymchwiliadau pellach i ddarganfod amgylchiadau'r farwolaeth. Ar hyn o bryd rydym yn trin y farwolaeth fel un heb esboniad."