Casnewydd 1-1 Caerwysg

  • Cyhoeddwyd
John SheridanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
John Sheridan

Casnewydd 1-1 Caerwysg

Fe wnaeth rheolwr newydd Casnewydd John Sheridan weld ei dîm yn brwydro i sicrhau gem gyfartal yn erbyn Caerwysg.

Gol Lenell John-Lewis wnaeth sicrhau'r pwynt i'r tîm cartref.

Hon oedd gêm gyntaf Sheridan wnaeth gymryd yr awenau ddydd Gwener yn dilyn ymadawiad Terry Butcher.

Aeth Caerwysg ar y blaen wedi i Joel Grant sgorio o groesiad Jordan Moore-Taylor.

Dywedodd Sheriadn: "Fe wnaeth chwarae yn dda iawn, gallwn ddim gofyn mwy gan y chwaraewyr."