BBC Cymru Fyw

Caeredin 20-9 Gweilch

Published
image copyrightSNS
image captionPhil Burleigh sgoriodd gais cyntaf Caeredin
Dyw hi ddim wedi bod yn ddechrau llewyrchus i'r Gweilch yn y Pro12 y tymor hwn, wrth i'r rhanbarth golli'r drydedd gêm o'r bron yng Nghaeredin nos Wener.
Fe lwyddodd Sam Davies i sicrhau naw pwynt i'r ymwelwyr a'u rhoi ar y blaen o ddau bwynt ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Ond â dau gais - un yr un i Phil Burleigh a John Andress - a chicio llwyddiannus gan Greig Tonks, colli oedd hanes y Gweilch.

Straeon perthnasol

  • Rugby World Cup 2015: Wales 23-13 Fiji