Wrecsam yn colli i'w cymdogion

  • Cyhoeddwyd

Caer 3-2 Wrecsam

Sgoriodd John Rooney gic rydd wych wrth i Gaer sicrhau buddugoliaeth gartref yn erbyn Wrecsam yn y gêm ddarbi.

Daeth ergyd James Roberts yn agos i roi Caer ar y blaen cyn ymdrech lwyddiannus Rooney o 25 llath.

Llwyddodd Dominic Vose i ddod a Wrecsam yn gyfartal gyda chic o'r smotyn ar ôl trosedd ar Blaine Hudson.

Ond fe roddodd Tom Shaw y tîm cartref yn ôl ar y blaen, ac yna roedd hi'n 3-1 ar ôl peniad yr eilydd Kane Richards.

Sgoriodd Connor Jennings gol gysur i Wrecsam yn yr amser oedd yn cael ei ganiatáu ar gyfer anafiadau.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn gostnwg i'r seithfed safle yn y Cynghrair Cenedlaethol.