Pwynt oddi cartref i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd

Joe Mason (chwith) ar ôl sgorio ei bumed gol y tymor hwn
Brighton 1 - 1 Caerdydd
Fe wnaeth Caerdydd sicrhau pwynt oddi cartref yn erbyn Brighton, y tîm sydd ar frig y Bencampwriaeth.
Aeth Caerdydd ar y blaen ar ôl dim ond pum munud, Joe Mason yn sgorio yn dilyn croesiad isel Scott Malone.
Daeth Brighton yn gyfartal cyn yr egwyl, foli Dale Stephens yn curo'r golgeidwad Simon Moore.
Brighton oedd yn rheoli'r rhan fwyaf o'r chwarae ond fe ddaeth Caerdydd yn agos dim ond i Lewis Dunk glirio o'r llinell gol yn dilyn ymdrech Sami Ameobi.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn yr wythfed safle.