Connacht 36-31 Gleision
- Cyhoeddwyd

Ellis Jenkins a Rhys Patchell yn taclo Bundee Aki
Fe wnaeth Connacht sicrhau buddugoliaeth pwynt bonws yn erbyn y Gleision yn y Pro12.
Ond fe wnaeth y Gleision hefyd sicrhau dau bwynt bonws dolch i gais y prop Sam Hobbs ar ddiwedd y gêm.
Hwn oedd pedwerydd cais y Gleision gan hefyd sicrhau pwynt bonws am golli o saith pwynt neu lai.
Fe aeth Connacht ar y blaen o 19-17 ar yr egwyl diolch i geisiadau Kieran Marmion, Nepia Fox-Matamua a Danie Poolman.
Croesodd Aled Summerhill a Josh Turbull i'r Gleision, gyda Dan Fish ychwanegu trydydd cais wedi'r egwyl.