Brechiadau ffliw i blant iau
- Cyhoeddwyd

Bydd y rhaglen flynyddol o frechiadau ffliw yng Nghymru sy'n dechrau yn yr hydref yn cynnwys plant rhwng dwy a chwe blwydd oed am y tro cyntaf.
Caiff y brechlyn ei roi ar ffurf chwistrell trwyn. Bydd y plant iau'n cael y chwistrell gan eu meddyg teulu a bydd plant yn y dosbarth derbyn ac ym mlynyddoedd un a dau yn cael eu brechlyn yn yr ysgol.
Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi addo "curo ffliw" ac mae'n annog y bobl sydd fwyaf mewn perygl o gael ffliw i ofalu eu bod yn cael eu brechlyn rhad ac am ddim.
Mae pawb dros 65 oed yn gymwys i gael y brechlyn rhad ac am ddim, yn ogystal â phobl a chanddynt gyflyrau iechyd hirdymor penodol a menywod beichiog.
Dywedodd Mr Gething: "Gall ffliw beryglu bywydau pobl sydd fwyaf mewn perygl, oherwydd eu hoed, oherwydd bod ganddynt broblem iechyd neu os yn feichiog. Yn anffodus mae'n lladd pobl bob blwyddyn."
'Straen ffliw yn newid'
Y llynedd, cafodd 68% o bobl 65 oed neu hŷn eu brechiad, ac ychydig o dan hanner - 49.3% - y bobl mewn 'grwpiau risg' dan 65 oed.
Dywedodd Dr Richard Roberts o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Bob blwyddyn mae'r lluched ffliw sy'n cylchredeg ac sy'n gwneud pobl yn sâl yn newid, felly hyd yn oed os cawsoch y brechlyn y llynedd mae'n rhaid ichi ei gael eto eleni - i'ch diogelu rhag ffliw'r gaeaf hwn.
"Mae ffigyrau o'r llynedd yn dangos fod y brechiad wedi diogelu 34 allan o bob 100 a frechwyd.
"Roedd hyn ychydig yn llai na'r arfer gan i un o'r straeniau ffliw newid. Ond mae'r straen hwnnw wedi ei gynnwys ym mrechlyn eleni."
Dylai'r rhan fwyaf o bobl gymwys fynd at eu meddyg teulu i gael eu brechu, ond mae rhai fferyllfeydd cymunedol hefyd yn cynnig y gwasanaeth.
Mae'r grwpiau cymwys yn cynnwys:
- Pobl sy'n 65 oed neu drosodd
- Pobl a chanddynt gyflyrau meddygol cronig
- Pobl a chanddynt imiwnedd is
- Menywod beichiog
- Pobl yn byw mewn cartref nyrsio neu breswyl
- Pobl sy'n gofalu am berson hŷn neu anabl
- Cynhalwyr sy'n gweithio'n wirfoddol ac sy'n darparu gofal rheolaidd i bobl fregus
- Pobl yn gweithio mewn mudiadau gwirfoddol sy'n darparu cymorth cyntaf
- Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned
- Plant 2-6 oed ar 31 Awst, 2015