Galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i'r cymoedd

  • Cyhoeddwyd
Rhymney Valley
Disgrifiad o’r llun,
Mae TUC Cymru am i Lywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau newydd i helpu cymunedau llai llewyrchus.

Dywed TUC Cymru y dylai rai o bwerau newydd Llywodraeth Cymru gael eu defnyddio i gryfhau economi cymoedd y de.

Mae'r mudiad wedi lansio ymgyrch "Swyddi gwell yn agosach i'r cartref" ac maen nhw'n galw ar weinidogion ym mae Caerdydd i ddefnyddio pwerau newydd er mwyn sicrhau bod cytundebau gwaith yn cael eu rhoi i'r ardaloedd tlotaf.

Dywed TUC Cymru fod y "farchnad rydd" dros ddegawdau wedi methu cynnig ateb i broblemau economaidd y rhanbarth.

Gwnaed cais i Lywodraeth Cymru am sylw.

Ers mis Awst, mae Llywodraeth Cymru wedi cael mwy o ryddid o ran y modd mae'n rhoi cytundebau, a'r modd mae'n gwario arian gyda chwmnïau.

Yn ôl cyfarwyddwyd newydd gan yr Undeb Ewropeaidd fe allai'r llywodraeth nawr neilltuo cytundebau ar gyfer grwpiau sydd o dan anfantais economaidd - gan gynnwys pobl ifanc di-waith, pobl sy'n ddi-waith yn yr hir dymor, rhieni sengl a phobl dros eu 50au.

Dywed TUC Cymru fod hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i helpu ardaloedd fel y cymoedd.

Trafnidiaeth

Daw ymgyrch y TUC wrth i Gynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru Llywodraeth Cymru glustnodi £628 miliwn ar gyfer y cymoedd hyd at 2020.

Dywedodd Martin Mansfield, ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru, y dylid ffocysu gwariant ar ardaloedd penodol ac y byddai hyn o gymorth i gymunedau difreintiedig.

"Pe bai Llywodraeth Cymru, er enghraifft, am roi contract ar gyfer cynhyrchu lifrau i'r gwasanaethau brys, fe allant benderfynu cynhyrchu'r cyfan yn rhywle fel Merthyr Tudful neu Lyn Ebwy.

"Dyw pobl methu mynd a gweithio shifftiau ar amseroedd anghymdeithasol yng Nghaerdydd, dyw'r drafnidiaeth ddim ar gael, a dyw'r arian ddim ar gael chwaith i dalu am drafnidiaeth.

"Dyw rhai o bobl y cymoedd ddim â'r sgiliau na'r profiad sy'n eu galluogi i gael eu swyddi cyntaf. Mae'n rhaid i'r llywodraeth ymyrryd, mae'r farchnad rydd wedi methu ers degawdau."

Ond dywedodd Dr Kath Ringwald o Brifysgol De Cymru, fod yn rhaid bod yn ofalus.

Dywedodd nad yw rheolau'r Undeb Ewropeaidd yn caniatáu i weinidogion Cymru neilltuo cytundebau ar gyfer grwpiau difreintiedig yng Nghymru ar draul grwpiau difreintiedig mewn ardaloedd eraill o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

"Mae modd rhoi cymorth i sefydliadau yng Nghymru er mwyn eu gwneud yn fwy cystadleuol, ond dyw hynny ynddo'i hyn ddim yn sicrhau cytundeb," meddai.