Leinster 37-13 Dreigiau
- Cyhoeddwyd

Cathal Marsh yn croesi
Fe wnaeth Isa Nacewa sgorio dau gais wrth Leinster sicrhau buddugoliaeth pwynt bonws yn y Pro12 yn erbyn y Dreigiau yn Nulyn.
Fe wnaeth y chwaraewr o Fiji daro yn yr hanner cyntaf gan roi'r tîm cartref ar y blaen 20-10.
Fe wnaeth y mewnwr Sarel Pretorius groesi i'r Dreigiau, gyda Jason Tovey yn ychwanegu dau bwynt.
Yn yr ail hanner fe wnaeth Gary Ringrose a Cathal Marsh.
Mae'r canlyniad yn golygu mai un fuddugoliaeth sydd gan y Dreigiau ar ôl chwarae tair gêm.