Ymchwiliad i lofruddiaeth yn Nhonypandy
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn 45 oed yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ar Ffordd Brithweunydd, Trealaw, Tonypandy, tua 07.20 ddydd Sadwrn.
Mae dyn 23 oed, a dwy ddynes, 45 a 23, wedi eu harestio ac maen nhw yn y ddalfa.
Mae'r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn yr ardal rhwng 08:00 ddydd Gwener a 07:20 ddydd Sadwrn.
Dywedodd y ditectif brif arolygydd Paul Hurley: "Rwyf am roi sicrwydd i'r cyhoedd fod digwyddiadau o'r fath yn rhai prin iawn a bod yna ymchwiliad llawn ar y gweill er mwyn darganfod beth yn union ddigwyddodd."
Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu yn ddienw ar 0800 555 111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol