BBC Cymru Fyw

Ymchwiliad i lofruddiaeth Tonypandy yn parhau

Published
image captionYr heddlu ar Ffordd Brithweunydd
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i lofruddiaeth dyn 45 oed yn Nhonypandy, Rhondda Cynon Taf.
Mae dyn 23 oed, a dwy ddynes, 45 a 23, wedi eu harestio a'u cadw yn ddalfa
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ar Ffordd Brithweunydd, Trealaw tua 07.20 ddydd Sadwrn.
Dywed yr heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn yr ardal rhwng 08:00 ddydd Gwener a 07:20 ddydd Sadwrn.
Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu yn ddienw ar 0800 555 111.
Dywedodd y ditectif brif arolygydd Paul Hurley: "Rwyf am roi sicrwydd i'r cyhoedd fod digwyddiadau o'r fath yn rhai prin iawn a bod yna ymchwiliad llawn ar y gweill er mwyn darganfod beth yn union ddigwyddodd."