Cymru yn wyth olaf Cwpan y Byd
- Cyhoeddwyd

Mae tîm rygbi Cymru drwodd i round go gynderfynol Cwpan Y Byd diolch i fuddugoliaeth Awstralia o 33-13 yn Twickenham.
Perfformiad gwych gan y maswr Bernard Foley, gyda dau drosgais a phedwar cic cosb, roddodd terfyn ar obeithion y Saeson.
Golygai'r canlyniad fod Awstralia a Chymru ar frig grŵp A gyda 13 pwynt yr un, a Lloegr yn drydydd gyda 6.
Dim ond un gêm sy'n weddill, ac yr uchafswm y gallai Lloegr nawr ei gael yw 11 pwynt.
Mae'n rhaid i Gymru guro Awstralia yn Twickenham ddydd Sadwrn nesaf er mwyn gorffen ar frig y grŵp.
Her fawr
Bydd eu gwrthwynebwyr yn y rownd go gynderfynol yn dod o grŵp B, ac yn dibynnu ar ganlyniadau, gallant wynebu De Affrica, Yr Alban neu Japan.
Y tebygrwydd yw y bydd y tîm sy'n gorffen yn ail yng ngrŵp Cymru yn wynebu De Affrica.
Adroddiad Cennydd Davies o Twickenham
Dywedodd Gwyn Jones, cyn gapten Cymru, y bydd Cymru yn wynebu talcen caled yn erbyn Awstralia.
"Rydym wedi gwneud beth oedd angen ei wneud, i guro Lloegr yn Twickenham, Fiji ac Uruguay...rydym drwodd mewn grŵp anodd. Dyw rhywun ddim yn gallu gofyn mwy.
"Buddugoliaeth Awstralai oedd y perfformiad gorau gan unrhyw dim yng Nghwpan y Byd hyd yma, gan gynnwys Seland Newydd. I guro Lloegr o 20 yn Twickenham mewn gem mor fawr - mae'n rhoi Awstralia mewn safle gwych ar gyfer gweddill y gystadleuaeth," meddai.
"Mae ei sgrym yn gadarn a sail gadarn i'r blaenwyr - ac mae pawb yn gwybod bod eu holwyr mor beryglus.
"Maen nhw'n dîm peryglus a bydd yna her mor fawr yn wynebu tîm Cymru ddydd Sadwrn nesa."