Gwyrddion yn targedu seddi
- Cyhoeddwyd

Mae Pippa Bartolotti, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, yn dweud fod y blaid yn obeithiol o sicrhau eu haelodau cyntaf yn y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn etholiad mis Mai nesa.
Ar raglen Sunday Politics Wales dywedodd Ms Bartolotti fod y blaid yn gobeithio ennill seddi ar y rhestr ranbarthol.
"Mae'n hen bryd i'r Gwyrddion gael seddi yn y Cynulliad ac fe allwn ni lwyddo i gael tri o aelodau ym mis Mai o Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Canol De Cymru a Gorllewin De Cymru. Rydym yn gweithio yn galed ac mae gennym dimau da yn yr ardaloedd yna."
Roedd gwersi wedi ei dysgu o etholiad cyffredinol eleni, meddai.
"Roedd gennym lawr o ymgeiswyr newydd a llawer i ddysgu, gyda changhennau lleol newydd. Does neb yn gwneud ei bod yn mynd i fod yn dasg hawdd, ond rydym yn barod i' wynebu'r her.
'Na' i dyfu'r economi
Dywedodd yr arweinydd nad oedd hi'n credu y byddai penderfyniad Llafur i ddewis Jeremy Corbyn fel arweinydd yn cymryd pleidleisiau oddi ar y Gwyrddion.
"Mae Jeremy Corbyn yn siarad am dyfu'r deisen (economi). Byddai'r Gwyrddion yn dweud 'na'.
"Mae tyfu'r deisen yn golygu mwy o bwyslais ar y diwylliant prydu, mwy o gloddio, mwy o wastraff, mwy o lygru. Mae yna deisen yn barod, pam na chawn ni just ei rhannu yn fwy teg."
O ran Cymru does gan y Gwyrddion ddim cynrychiolaeth ar lefel y Cynulliad, San Steffan, Senedd Ewrop, na'r cynghorau sir.
Yn etholiad cyffredinol mis Mai fe wnaeth y blaid sefyll mewn 35 o'r 40 sedd. Ac eithrio tair sedd - Canol Caerdydd, Ceredigion a Gorllewin Abertawe - fe gollwyd yr ernes ym mhob sedd.