Dau wedi eu hanafu yn ddifrifol yn dilyn damwain ffordd
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y ddamwain ger pont Waterloo, Betws-y-Coed.
Mae gyrrwr a theithiwr beic modur wedi cael eu hanafu yn ddifrifol ar ôl damwain yn Nyffryn Conwy.
Bu car Nissan Qashqai a beic modur BMW mewn gwrthdrawiad ar yr A470 ger Betws-y-Coed am 14:15 ddydd Sul .
Mae'r ffordd wedi ei chau tra bod ymchwiliad i'r ddamwain ger pont Waterloo yn parhau.
Aed a'r gyrrwr a'r teithiwr i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio am dystion i'r digwyddiad.