Ceidwadwyr: Cyfle i ddathlu

  • Cyhoeddwyd
David CameronFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Cameron: 'Record dda ar ddatganoli'

Ar ddechrau eu cynhadledd ddoe, bu'r Ceidwadwyr yn ail-chwarae rhai o'r adroddiadau newyddion o noson yr etholiad cyffredinol.

Cyfle i ddathlu atgofion melys i'r blaid ond roedd yna deimlad hefyd eu bod nhw angen tystiolaeth o'r canlyniad.

Wedi'r cyfan, roedd hi'n fuddugoliaeth hollol annisgwyl i bawb.

Felly, mae aelodau'r blaid yn y gynhadledd yn amlwg wrth eu boddau.

Ar ôl pum mlynedd o glymbleidio, maen nhw nawr yn gallu gweithredu'n ddi-rwystr.

Ond mae yna ambell i gwmwl du ar y gorwel - y refferendwm sydd i ddod ar Ewrop yw'r un mwyaf tywyll.

Mae hynny bron yn sicr o achosi rhaniadau y tu fewn i'r Blaid Geidwadol.

Mandad

Hefyd ym Manceinion yr wythnos hon, mae yna brotestwyr diri yn ymgynnull i ddanfon neges i'r Ceidwadwyr - rhowch derfyn ar doriadau i wasanaethau cyhoeddus a'r wladwriaeth les.

Er gwaethaf bod agenda llymdra'r Ceidwadwyr yn hollti barn, mae ganddyn nhw fandad i wneud hynny yn dilyn buddugoliaeth ym mis Mai.

Ac mae'r Ceidwadwyr yn hyderus y gallan nhw drosglwyddo'r llwyddiant etholiadol hynny i'r Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb, gallan nhw gynyddu ar y 14 Aelod Cynulliad sydd eisoes ganddyn nhw ym Mae Caerdydd.

"Dyw e ddim yn beth iach i Gymru" bod Llafur yn ennill "etholiad ar ôl etholiad", meddai.

Mae yna hefyd dipyn o ffrae ar hyn o bryd rhwng y ddwy blaid ynghylch pwerau'r Cynulliad.

Yn dilyn refferendwm annibyniaeth yr Alban, fe addodd y prif weinidog y byddai'n datganoli fwy o bwerau i Gymru.

Record dda

Y disgwyl yw y bydd y llywodraeth Geidwadol yn cyflwyno'r mesur hynny ar lawr Tŷ'r Cyffredin ymhen ychydig wythnosau.

Ond yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd Stephen Crabb ei fod e'n "besimistaidd" y gall ei lywodraeth daro bargen ynghylch hynny da gweinidogion ym Mae Caerdydd.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, fe ddywedodd David Cameron bod gan ei lywodraeth record dda ar ddatganoli.

Bu hefyd yn tynnu sylw ar y pethe hynny, medde fe, mae ei lywodraeth wedi gwneud sy'n bwysicach i fywydau pobl Cymru, er enghraifft, trydaneiddio'r rheilffyrdd ac adeiladu carchar newydd ger Wrecsam.

Fis Mai nesaf, bydd yr etholwyr yn cymharu'r record hynny yn erbyn record llywodraeth Lafur Cymru.

Gawn ni weld pa un fydd yn llwyddiannus.