Llofruddiaeth Grangetown: Dynion yn y llys
- Cyhoeddwyd

Bu farw Russell Peachey yn yr ysbyty wedi'r ymosodiad honedig
Mae pedwar dyn wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn 35 oed.
Fe gafwyd hyd i Russell Peachey yn anymwybodol ar stryd yn ardal Grangetown y brifddinas ddechrau mis Awst eleni.
Bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Mae Dean Beasley, 37 o'r Barri, Shaminder Singh, 40 o Grangetown, Christopher Smith, 34 o Caerau, a James Williams, 31 a chanddo ddim cyfeiriad parhaol, oll wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth ac wedi eu cadw yn y ddalfa.
Fe fyddan nhw'n ymddangos yn y llys unwaith eto ar 13 Tachwedd.