Cyhoeddi enw'r ddynes fu farw yn namwain Betws-y-Coed

  • Cyhoeddwyd
A5 looking towards the A470 near Waterloo BridgeFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Digwyddodd y ddamwain ger pont Waterloo, Betws-y-Coed

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r ddynes fu farw mewn gwrthdrawiad yn Nyffryn Conwy ddydd Sul.

Roedd Jennifer Mary Taylor, 72, yn dod o ardal Dolgarrog.

Roedd car Nissan Qashqai a beic modur BMW wedi taro yn erbyn ei gilydd ar yr A470 ger Betws-y-Coed, ger pont Waterloo, tua 14:15.

Mae swyddogion yr heddlu'n parhau i ymchwilio ac yn awyddus yn benodol i siarad â gyrrwr cerbyd gwyn, allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad.

Meddai'r Sarjant Jason Diamond: "Mae'n bosib mai model eitha' newydd o'r Toyota Auris oedd y cerbyd, ond dydyn ni ddim yn diystyru unrhyw beth am y tro.

"Rydyn ni'n credu y gallai gyrrwr y cerbyd lliw gwyn hwn fod wedi gweld y gwrthdrawiad, ac felly rydym yn awyddus i siarad â nhw cyn gynted â phosib i'n helpu gyda'r ymchwiliad."

Mae gyrrwr beic modur 54 oed yn dal i gael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac mae'n ymddangos ei fod yn gwella.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth allai helpu'r ymchwiliad gysylltu gyda'r heddlu drwy ffonio 101 a defnyddio'r cyfeirnod S152191.