Amgueddfeydd: Diwedd y trafodaethau

  • Cyhoeddwyd
National Museum Wales strike action
Disgrifiad o’r llun,
Mae Undeb y PCS wedi cynnal sawl streic ar draws Cymru dros y misoedd diwetha' fel rhan o'r anghydfod dros daliadau

Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi dod â thrafodaethau ar gyflogau gydag Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus (PCS) i ben, wedi i'r undeb wrthod cynnal pleidlais ar "gynnig gorau" yr amgueddfa.

Yn ôl y sefydliad, byddan nhw nawr yn cynnal ymgynghoriadau unigol gydag aelodau staff fydd yn gweld effaith y newidiadau.

Bydd y gweithwyr nawr yn cael cynnig y cytundeb gwreiddiol, a gafodd ei dderbyn gan undeb Prospect yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae'n debyg y bydd y newidiadau i'r drefn o roi tâl ychwanegol am weithio penwythnosau a gwyliau banc yn effeithio ar thua 300 o aelodau staff, ac mae disgwyl i'r broses ymgynghori bara rhai misoedd.

Mae undeb y PCS wedi cynnal nifer o streiciau dros y misoedd diwetha' fel rhan o'r anghydfod.

'Siomedig'

Meddai'r Amgueddfa wedi'r cyhoeddiad ddydd Llun: "Ddydd Gwener, fe'n hysbyswyd gan Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus (PCS) bod ei haelodau wedi pleidleisio yn erbyn balot ffurfiol i ystyried ein newidiadau i Daliadau Premiwm.

"Dros y pythefnos diwethaf, mae PCS wedi bod yn gofyn i'w haelodau ystyried a fyddant yn barod i gymryd rhan mewn balot ar ein cynnig olaf a gorau, a gyflwynwyd er mwyn ceisio digolledi staff na fyddai'n derbyn lwfans ychwanegol am weithio ar benwythnosau mwyach. Cyflwynwyd y cynnig gwell yma i'r undeb llafur yn ystod ein trafodaethau drwy ACAS, mewn ymgais i ddatrys yr anghydfod.

"Rydym yn siomedig â chanlyniad y balot, sydd yn golygu nad oes dewis gennym ond cynnal ymgynghoriadau unigol ar ein cynnig gwreiddiol a dderbyniwyd gan undeb llafur Prospect ym mis Mehefin eleni.

"Rydym wedi cyfleu yn gyson i PCS, a'n holl staff, mai am gyfnod penodol yn unig y byddai'r cynnig gwell hwn ar gael. Mae'n rhaid i ni sicrhau'r arbedion ariannol gan ein bod yn wynebu gostyngiad yn y gyllideb. Am bob mis ychwanegol o Daliadau Premiwm, mae llai gennym i'w gynnig i'r staff yr effeithir arnynt.

"Rydym wedi bod yn trafod â'n hundebau llafur a'r rheiny yr effeithir arnynt am bron i ddwy flynedd, ac wedi gwneud nifer o newidiadau i wella'r cynnig ac adlewyrchu'r adborth a ddaeth i law. Bydd pob aelod o staff yr effeithir arnynt nawr yn cael cyfle i fynegi barn ar y newidiadau drwy'r ymgynghoriadau unigol."