E. coli: Ail gwest i farwolaeth Mason Jones?
- Cyhoeddwyd

10 mlynedd wedi'r digwyddiad, bydd gwrandawiad yn dechrau ddydd Mawrth i benderfynu a ddylid cynnal ail gwest i farwolaeth bachgen pump oed o dde Cymru, fu farw ar ôl cael ei heintio ag E.coli.
Bu farw Mason Jones o Deri, ger Bargoed, yn 2005 ar ôl iddo fwyta cinio ysgol.
Yn 2010, cofnododd Crwner Gwent, David Bowen reithfarn naratif mewn cwest i'w farwolaeth.
Bydd yr Adolygiad Barnwrol, yn y Ganolfan Cyfiawnder Sifil a Theuluol yng Nghaerdydd, yn penderfynu a ddylid cynnal cwest o'r newydd.
Bu farw Mason ar 4 Hydref 2005 yn Ysbyty Plant Bryste wedi iddo gael ei wenwyno.
Fe oedd yr unig un i farw wedi tua 160 o achosion o E. coli yn ne ddwyrain Cymru'r flwyddyn honno - plant oedd wedi cael eu heffeithio'n bennaf.
Cafodd cigydd, William Tudor, o'r Bontfaen, Bro Morgannwg, ei garcharu am 12 mis am gyflenwi ysgolion gyda chig oedd wedi'i heintio.