Ystyried gwahardd cardota yng nghanol Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Casnewydd yn ystyried cynlluniau i wahardd cardota a chysgu ar y stryd yng nghanol y ddinas.
Dywedodd y cyngor eu bod yn ymgynghori ar y cynlluniau ar adeg pan fo ymdrechion i wneud gwelliannau i'r ardal, gan gynnwys adeiladu canolfan siopa.
Ychwanegon nhw fod y problemau yn ddau o'r pryderon sy'n cael eu hadrodd amlaf i Heddlu Gwent a'r Gwasanaeth Tân.
Ond mae mudiad hawliau dynol Liberty yn dweud y byddai gwaharddiad yn "troi'r bobl fwyaf bregus yn y ddinas yn droseddwyr".
Mae'r mudiad wedi ysgrifennu at Gyngor Casnewydd i fynegi eu pryder am y syniad.
Mae'r cyngor yn gobeithio diweddaru'r rheolau ar amddiffyn mannau cyhoeddus cyn i ganolfan siopa newydd agor fis nesaf.
Maen nhw wedi bod yn ymgynghori gyda'r cyhoedd am yr hyn fydden nhw am ei weld yn cael ei gynnwys yn y rheolau newydd, fel gwahardd cardota, cysgu ar y stryd a chosbi perchnogion am gael cŵn sydd ddim ar dennyn.
'Profiad positif'
Dywedodd y cynghorydd Bob Poole eu bod yn ceisio gwneud canol y ddinas yn lle mwy deniadol i ymwelwyr, i gydfynd â'r datblygiadau i'r ardal.
"Mae hi'n amserol, gyda'r newid yma er gwell, bod y gyfraith newydd yma yn cynnig y cyfle i'r ddinas a'i thrigolion i adeiladu ar y momentwm yna trwy sicrhau bod profiad ymwelwyr yn un cadarnhaol," meddai.
Ychwanegodd fod y cyngor wedi derbyn 350 o ymatebion i'r ymgynghoriad.
Dywedodd y cyngor nad oedden nhw wedi penderfynu yn derfynol beth ddylai gael ei gynnwys yn y rheolau newydd.
Ychwanegon nhw eu bod yn helpu pobl ddigartref a'u bod yn gweithio gyda gwasanaethau eraill i fynd i'r afael â'u hanghenion.
Bydd y rheolau newydd yn cael eu hystyried gan bwyllgor craffu'r cyngor ar 15 Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2015