Y Cynulliad yn cwblhau newidiadau i'r drefn rhoi organau
- Cyhoeddwyd

Bydd ACau yn cwblhau rheolau newydd ar roi organau ddydd Mawrth, sy'n cymryd yn ganiataol fod pobl yn cydsynio i'w rhoi oni bai eu bod yn nodi'n wahanol.
Bydd system o gymryd yn ganiataol fod pobl am roi eu horganau - a elwir yn 'gydsyniad tybiedig' - yn dod i rym ar 1 Rhagfyr, a bydd rhaid i bobl ddweud yn benodol os nad ydyn nhw eisiau rhoi eu horganau wedi eu marwolaeth.
Bydd ACau yn ystyried eithriadau pan ddylai pobl orfod nodi eu caniatâd penodol, er enghraifft ar gyfer rhai rhannau o'r corff gan gynnwys yr ymennydd.
Gallai arbenigwyr fod yn gyfrifol am orfod dewis dros bobl sydd ddim â'r gallu meddyliol i roi eu barn.
Enghraifft fyddai rhodd o aren i aelod o'r teulu oedd yn gofalu amdanynt, ble mae caniatâd i roi dan y rheolau presennol.
Codi ymwybyddiaeth
Dan y gyfraith newydd, mae gan bobl y cyfle i gofrestru eu penderfyniad i roi eu horganau ai peidio, gyda'r rheolau yn cymryd yn ganiataol bod caniatâd os nad yw pobl yn cofrestru i beidio.
Byddai'r teulu yn rhan o unrhyw drafodaethau am roi organau.
Mae ymgyrch deledu a thaith wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o'r newid.
Ym mis Medi, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi fod dros 109,000 o bobl wedi ymuno â'r gofrestr i roi organau rhwng 2010-11 a 2014-15, oedd yn golygu cynnydd o 30% i 34% o boblogaeth Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2014