Cwmni technoleg i greu 100 o swyddi yn ne Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni technoleg gwybodaeth wedi cyhoeddi y bydd 100 o swyddi newydd yn cael eu creu wrth iddyn nhw agor canolfan newydd yng nghymoedd y de.
Bydd cwmni Capgemini yn gwario dros £17 miliwn ar ganolfan yn Nhrefforest, Rhondda Cynon Taf.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £1.4m tuag at y buddsoddiad.
Dywedodd y Gweinidog Economi Edwina Hart: "Mae penderfyniad Capgemini i leoli'r gwaith newydd hwn yng Nghymru yn adlewyrchiad o'r arbenigedd a'r sgiliau lefel uchel sydd yma.
"Mae'r rhanbarth wedi ennill enw da am ei arbenigedd yn y maes hwn ac mae'n cael ei gydnabod yn un o'r prif ardaloedd yn y DU am ymchwil, datblygiad a masnacheiddio cynhyrchion a gwasanaethau diogelwch."
Bydd y cwmni, sydd eisoes â chanolfan yn Abertawe, yn agor ar y safle newydd yn Nhrefforest ym mis Ionawr ac yn creu'r swyddi dros dair blynedd.