Neuadd breswyl Aberystwyth 'yn effeithio ar yr economi'?
- Cyhoeddwyd

Mae arweinwyr busnes yn honni fod neuadd breswyl newydd Prifysgol Aberystwyth yn cael effaith andwyol ar economi'r dre', oherwydd ei fod yn canolbwyntio cymaint ar fywyd campws.
Ond mae'r Brifysgol wedi wfftio'r honiadau, gan ddweud nad oes bwriad ganddynt i agor siopau ar y safle.
Ym mis Ionawr eleni yr agorodd neuadd Fferm Penglais, wedi i oedi olygu nad oedd modd ei hagor ar ddechrau blwyddyn academaidd 2014.
Rhybudd y Siambr Fasnach leol yw y gallai busnesau gau os bydd myfyrwyr yn gwario eu harian ar y campws.
Dywedodd cadeirydd Siambr Fasnach Aberystwyth, Chris Mackenzie-Grieve: "Gallwch weld faint o siopau gweigion sydd yn y dre' nawr, lle nad oedd o'r blaen."
"Felly nid yw'r myfyrwyr yn y dre'. Maen nhw i fyny'r rhiw, ac a oes cymhelliad iddyn nhw ddod i lawr?"
"Maen nhw'n adeiladu llawer mwy o gyfleusterau yno, nid neuaddau preswyl yn unig, ond cyfleusterau siopa ac yn y blaen, felly mae llawer mwy o ganolbwyntio ar y campws."
'Dim cyfleusterau siopa'
Mae'r Brifysgol yn dweud y bydd y neuadd yn cyfrannu miliynau o bunnoedd i economi'r dre' yn yr hirdymor.
Mewn ymateb i'r honiadau diweddara', dywedon nhw nad oes unrhyw fwriad ganddyn nhw i agor cyfleusterau siopa ar y campws.
Ychwanegodd llefarydd ar eu rhan: "Yn fwy cyffredinol, pwysig nodi hefyd bod hanner poblogaeth myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn byw mewn llety sector breifat yn y dref, a nifer o'r rhai sy'n byw mewn llety Prifysgol, yn byw mewn neuaddau preswyl glan môr, sydd hefyd yn y dref."