E. coli: 'Ymwybodol o'r peryglon'
- Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed fod cigydd, oedd yn gyfrifol am drin cig wedi ei heintio ag E. coli a arweiniodd at farwolaeth bachgen pum mlwydd oed, yn ymwybodol o'r peryglon.
Bu farw Mason Jones o'r Deri yn Sir Caerffili yn 2005 ar ôl bwyta'r cig mewn pryd ysgol.
Fe oedd yr unig un i farw wedi tua 160 o achosion o E. coli yn ne ddwyrain y wlad y flwyddyn honno - plant oedd y mwyafrif i gael eu taro'n wael.
Ail gwest
Mae teulu Mason eisiau cynnal ail gwest er mwyn ceisio newid y rheithfarn naratif wreiddiol a gafodd ei chofnodi gan y crwner.
Wrth gynrychioli'r teulu, honnodd Mark Powell QC fod y crwner gwreiddiol wedi cofnodi'r rheithfarn anghywir.
"Ry'n ni'n dweud fod y crwner wedi camgyfeirio'r rheithgor a'i hunan pan yn ystyried elfennau'r drosedd hon," meddai.
"Dy' ni ddim yn dweud fod y crwner wedi gweithredu'n amhriodol, ry'n ni'n dweud ei fod yn anghywir", ychwanegodd.
Daeth y cig oedd wedi ei heintio gan gigydd o Benybont oedd hefyd yn cyflenwi cig i 40 o ysgolion eraill yng nghymoedd y de.
Cafodd y cigydd, William John Tudor o'r Bontfaen, Bro Morgannwg, ei garcharu am 12 mis yn 2007 am dorri'r gyfraith yn ymwneud â rheolau glendid bwyd.
Clywodd y gwrandawiad yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil a Theuluol yng Nghaerdydd fore Mawrth fod ganddo'r hyfforddiant glendid bwyd angenrheidiol a'i fod yn gwybod bod yna berygl y gallai rhywun farw.
Mae disgwyl i benderfyniad ar apêl y teulu am ail gwest i gael ei gyhoeddi ar ddyddiad arall.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2015