Llofruddiaeth: Tri yn y llys
- Cyhoeddwyd
Mae mam a'i mab wedi cael eu cyhuddo o lofruddio gŵr y wraig yng nghartre'r teulu yn Nhrealaw, Y Rhondda.
Daeth yr heddlu o hyd i gorff Mark Hopes, 45 oed, yn y tŷ yr oedd yn ei rannu gyda'i wraig Maria.
Mae Maria Hopes, 45 oed, a'i mab Leon Port, 23, wedi'u cyhuddo o'i ladd yn y tŷ ar Heol Brithweunydd rywbryd rhwng 1 a 4 Hydref.
Hefyd mae Maria Hopes a chariad Mr Port - Rebecca Donovan, 23, - wedi'u cyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Roedd y tri o flaen ynadon ym Mhontypridd ddydd Mawrth.
Cafodd Maria Hopes a Leon Port eu cadw yn y ddalfa, ond cafodd Rebecca Donovan ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Fe fydd y tri yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher.
Mae'r heddlu'n dal i apelio am unrhyw wybodaeth ac yn gofyn i bobl ffonio 101, neu yn ddienw ar Taclo'r Tacle ar 0800 555111, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1500365324.
Straeon perthnasol
- 4 Hydref 2015