Athro yn euog o gamymddwyn proffesiynol
- Cyhoeddwyd

Clywodd y panel ei fod wedi gadael i ddisgyblion gywiro'u hatebion
Mae athro o Wrecsam, gyfaddefodd iddo helpu disgyblion i dwyllo yn eu profion mathemateg cenedlaethol, wedi ei wahardd rhag dysgu am bum mlynedd.
Dywedodd y panel fod Christopher Michael Hanmer yn euog o gamymddwyn proffesiynol.
Clywodd gwrandawiad yn Sir y Fflint ei fod wedi gadael i ddisgyblion Ysgol Gynradd Garth yn Llangollen gywiro'u hatebion cyn cyflwyno'r canlyniadau ffug i Lywodraeth Cymru.
Roedd marciau wyth o ddisgyblion wedi'u newid - un o 10 pwynt.
Daeth y twyll i'r amlwg wedi i'r pennaeth dros dro sylwi bod 'na wahaniaeth rhwng marciau un flwyddyn a'r llall.
Roedd wedi dweud wrth y panel fod profedigaeth yn y teulu wedi bod cyn y profion a bod perthynas yn sâl adeg y profion.