Cefnogaeth busnesau Cymru angen 'adfywiad radical'
- Cyhoeddwyd

Dyw'r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gefnogi busnesau ddim yn gweithio a dylid cael ei newid yn radical, yn ôl adroddiad i'r Ffederasiwn Busnesau Bach.
Mae'r adroddiad annibynnol gan yr Athro Karel Williams o Ysgol Fusnes Manceinion yn dweud bod "meddylfryd economaidd confensiynol a pholisïau prif ffrwd yn arwain Cymru i 'nunlle".
Mae'n galw am fwy o help i sicrhau bod busnesau llai yng Nghymru yn parhau dan berchnogaeth Gymreig wrth iddyn nhw dyfu, a llai o ymdrech yn ceisio denu busnesau o dramor.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "amlwg bod ein polisïau economaidd yn gweithio".
Ni fydd ymdrechion i gau'r bwlch cyfoeth rhwng Cymru a de-ddwyrain Lloegr yn llwyddiannus, medd yr adroddiad, felly ni ddylai fod yn sail i bolisïau Llywodraeth Cymru.
Mae'n ychwanegu bod polisïau fel defnyddio nawdd cyhoeddus i ddenu cwmnïau heb gysylltiadau lleol i Gymru yn "gyffredinol" a'u bod yn cael eu defnyddio gan bob gwlad arall yng ngorllewin Ewrop sydd ar ei hôl hi yn economaidd.
Perchnogion Cymreig
Yn hytrach, dylai gweinidogion ganolbwyntio ar gymhellion i berchnogion busnesau i'w galluogi nhw i gadw'r cwmnïau dan berchnogaeth Gymreig.
Byddai hyn yn cynnwys cefnogi rheolwyr i adeiladu cwmnïau a darganfod olynwyr i gymryd rheolaeth o'r cwmni.
Mae'r adroddiad yn dweud bod diffyg yn nifer y busnesau bach a chanolig yng Nghymru sy'n cyflogi rhwng 10-250 o bobl, sy'n gwneud yr economi yn sigledig.
Mae'r adroddiad hefyd yn beirniadu strategaeth Llywodraeth Cymru am gael naw sector arbenigol allweddol.
Mae'n galw i'r Llywodraeth i ganolbwyntio ar sectorau ble y gall wella ei lwyddiant, fel y sector adeiladu.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dy'n ni heb dderbyn copi o'r adroddiad hyd yn hyn, ond mae'n amlwg bod ein polisïau economaidd yn gweithio.
"Y llynedd fe wnaethon ni greu, diogelu neu helpu i greu dros 38,000 o swyddi - y perfformiad gorau am 10 mlynedd."