Mwy o gwynion yn erbyn heddluoedd Cymru a Lloegr
- Cyhoeddwyd
Cododd nifer y cwynion yn erbyn yr heddlu yng Nghymru a Lloegr i'w lefel uchaf y llynedd, yn ôl ffigyrau newydd.
Cafodd cyfanswm o 37,105 o gwynion eu gwneud yn 2014-15, cynnydd o 6% ers 2013-14, yn ôl ffigyrau Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).
Aeth nifer y cwynion i heddluoedd Gwent, De Cymru a Gogledd Cymru i fyny, tra bod Heddlu Dyfed Powys wedi gweld gostyngiad.
Y gŵyn gafodd ei gwneud amlaf oedd "esgeuluso neu fethu a chyflawni dyletswyddau".
Daeth arolwg gan yr IPCC y llynedd i'r canlyniad fod boddhad y cyhoedd ar ôl bod mewn cyswllt gyda'r heddlu wedi disgyn, a bod mwy yn fodlon cwyno.
Cwynion yng Nghymru
- Cafodd Heddlu Gogledd Cymru gyfanswm o 473 o gwynion, cynnydd o 43% ers y llynedd;
- Roedd Heddlu Gwent wedi cael 398 o gwynion, cynnydd o 28%;
- Heddlu De Cymru gafodd y nifer uchaf o gwynion - 864 - cynnydd o 20%;
- Yr unig lu i weld llai o gwynion oedd Heddlu Dyfed Powys gyda 268 o gwynion, 18% yn llai na'r llynedd.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod gwahaniaeth mawr yn y ffordd y mae lluoedd yn delio gyda chwynion.
Roedd rhai lluoedd yn delio gyda hyd at 70% o gwynion yn swyddogol, tra bod eraill yn ffafrio 'datrysiadau lleol'.
Roedd gwahaniaeth mawr hefyd yn y gyfradd o gwynion gafodd eu derbyn gan luoedd, a'r nifer o apeliadau oedd yn cael eu derbyn.
Mae'r gyfradd o apeliadau llwyddiannus ddwywaith yn uwch pan mae'r apêl yn cael ei glywed gan yr IPCC (39%) o'i gymharu ag apeliadau sy'n cael eu hystyried gan yr heddluoedd eu hunain (19%).
Roedd yr amser i ddatrys cwynion hefyd yn amrywio o 52 diwrnod i 205 diwrnod.
'Rhy gymhleth'
Dywedodd Cadeirydd yr IPCC, y Fonesig Anne Owers, bod y ffigyrau yn dangos bod y system gwynion yn "rhy gymhleth ac anghyson" a'i fod yn "methu a delio gyda nifer sylweddol o gwynion".
Ychwanegodd bod angen i Gomisiynwyr ystyried y ffigyrau i sicrhau bod lluoedd yn trin pobl yn deg.
"Ond y broblem fwyaf yw'r system ei hun," meddai. "Rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod y llywodraeth yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i symleiddio system sydd ar hyn o bryd yn methu a bodloni'r rhai sydd ei angen na'r rhai sy'n gorfod ei weithredu."