Pentref gwyliau Ynys Môn gam yn nes
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun gwerth £120m i adeiladu pentref gwyliau a thai ar Ynys Môn gam yn nes at gael ei gymeradwyo wedi cyfarfod cynghorwyr.
Cafodd prosiect Land and Lakes yng Nghaergybi ganiatâd cynllunio yn 2013 ond mae cyfres o amodau cyfreithiol wedi arwain at oedi.
Byddai'r cynllun yn golygu adeiladu 500 o fythynnod a chyfleusterau hamdden ym Mhenrhos, a 300 o fythynnod eraill ar safle Cae Glas gerllaw.
Yn ogystal byddai cartrefi i weithwyr fydd yn adeiladu gorsaf ynni niwclear Wylfa Newydd yn ardal Kingsland y dref.
Ddydd Mercher cytunodd cynghorwyr amodau cynllunio, gan gynnwys beth fydd yn digwydd i'r tai pan fydd gwaith adeiladu Wylfa Newydd ar ben.
'Cais cynllunio mwyaf'
Dywedodd deiliad portffolio cynllunio'r cyngor, y Cynghorydd Richard Dew: "Dyma'r cais cynllunio mwyaf mae'r cyngor wedi ei ystyried ac roedd yn hollbwysig ein bod yn ystyried yn fanwl y darpariaethau fyddai yn y cytundeb adran 106.
"Bydd y pennau telerau, gafodd eu cytuno fel rhan o'r cytundeb adran 106, yn dod â £20m i'r ardal er mwyn lleihau unrhyw effeithiau yn sgil cais ar y raddfa hon.
"Hefyd mi fyddwn ni wedi delio ag unrhyw bryderon amgylcheddol."
Dywedodd y byddai'r Gwasanaeth Cynllunio yn anelu at gytundeb terfynol o dan adran 106, caniatâd cynllunio a thrafod cynlluniau dylunio gyda'r datblygwyr.