Ymchwiliad i gamgymeriad cyffuriau peryglus yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae swyddogion iechyd yng ngogledd Cymru wedi bod yn ymchwilio wedi i glaf mewn canolfan iechyd yn Wrecsam dderbyn dos o inswlin allai fod wedi ei ladd.
Dylai'r claf fod wedi derbyn math o'r cyffur sy'n gweithio am gyfnod byr, ond fe dderbyniodd y math sy'n gweithio am gyfnod hir.
Daeth manylion y digwyddiad yn amlwg mewn adroddiad i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Bydd y canfyddiadau'n cael eu trafod yng nghyfarfod y bwrdd yr wythnos nesaf.
Yn ôl yr adroddiad, fe ddigwyddodd y camgymeriad mewn canolfan iechyd - sydd ddim yn cael ei henwi - ym mis Awst.
Digwyddiadau tebyg
Mae'n un o bedwar digwyddiad tebyg sydd y cafodd y bwrdd wybod amdanyn nhw hyd yn hyn yn 2015.
Ym mis Ebrill fe wnaeth glaf yn Ysbyty Glan Clwyd dderbyn triniaeth ar y rhan anghywir o'i gorff.
Ym mis Mehefin fe dderbyniodd glaf arall driniaeth ar ben-glin anghywir yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Fis yn ddiweddarach fe gafodd eitem, a ddefnyddiwyd mewn llawdriniaeth, ei cholli, gan olygu bod rhaid i'r claf gael prawf pelydr-X i sicrhau nad oedd yr eitem wedi ei gadael y tu mewn iddo.
Dywedodd Jill Newman o'r bwrdd iechyd fod ymchwiliad llawn wedi dechrau i'r digwyddiad ym mis Awst, gyda chamau wedi eu cymryd i osgoi digwyddiad o'r fath yn y dyfodol.