Dedfrydu dyn am roi lluniau anweddus ar y we

  • Cyhoeddwyd
Jesse HawthorneFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae dyn trawsrywiol wnaeth roi llun anweddus o'i gyn gariad ar y we yn dilyn ffrae feddwol wedi cael dedfryd o garchar wedi'i gohirio.

Fe wnaeth Jesse Hawthorne, 23, o Gaerffili, roi'r llun ar wefan Facebook yn dilyn ffrae am gael ei gi yn ôl gan ei gariad.

Roedd wedi cyfaddef yn barod i ddatgelu llun rhywiol personol gyda'r bwriad o achosi gofid.

Fe gafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd i 16 wythnos o garchar, wedi'i ohirio am 12 mis.