Diwrnod olaf ymgynghori ar gau llysoedd

  • Cyhoeddwyd
Pontypridd and Holyhead courtsFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Mae llysoedd Pontypridd a Chaergybi dan fygythiad

Dim ond diwrnod sydd ar ôl i'r cyhoedd leisio eu barn am gynlluniau i gau 11 o lysoedd yng Nghymru.

Mae pryder y gallai'r penderfyniad olygu teithiau hir i nifer sy'n ceisio cyrraedd llysoedd.

Mewn aradloedd gwledig mae rhai'n honni y byddan nhw'n gorfod teithio dros ddwy awr ar fws i gyrraedd eu llys agosaf.

Mae'r ymgynghoriad yn cau ddydd Iau.

Roedd y Gweinidog Cyfiawnder Michael Gove wedi dweud bod y penderfyniad i gau llysoedd oherwydd "gormod o gapasiti".

91 o lysoedd

Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar gynlluniau i gau 91 o lysoedd a thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr.

Os yw'r cynlluniau'n cael eu gwireddu, medden nhw, bydd 95% o'r boblogaeth yn gallu gyrru at lys o fewn awr.

Ond mae map, gafodd ei greu gan Gymdeithas y Gyfraith, yn awgrymu y byddai'n cymryd mwy o amser i'r rhai sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Dan fygythiad

  • Canolfan Gwrandawiadau a Thribiwnlysoedd Sir Gaerfyrddin
  • Llysoedd Barn Aberhonddu
  • Llysoedd Barn Caerfyrddin
  • Llysoedd Barn Pen-y-bont ar Ogwr
  • Llys Sifil a Theulu Castell-nedd Port Talbot
  • Llys Sifil a Theulu Llangefni
  • Llys y Goron ac Ynadon Dolgellau
  • Llys Ynadon Caergybi
  • Llys Ynadon Pontypridd
  • Llys Ynadon Prestatyn
  • Tribiwnlysoedd Wrecsam