Gwario ar gynllun M4 yn 'dychryn' AC Llafur
- Published
Mae AC Llafur yn dweud ei bod wedi ei "dychryn" am fod Llywodraeth Cymru'n gwario bron £20m ar gynllun datblygu ffordd liniaru'r M4 yn 2015-16.
Does dim disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau tan 2018 ond mae'r llywodraeth yn gwario £19.8m yn 2015-16 ar "waith asesu ac ymgynghori â'r cyhoedd".
Mae'r gwrthbleidiau a nifer o ACau Llafur yn gwrthwynebu'r cynllun gwerth £1bn, ac mae llawer yn amau a fydd yn cael ei wireddu.
Jenny Rathbone, aelod Llafur Canol Caerdydd, sy'n dweud fod y rhan fwyaf o aelodau meinciau cefn y blaid yn gwrthwynebu'r prosiect, a dywedodd ei bod eisiau i faniffesto etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf gynnwys ymrwymiad i adolygu'r cynllun.
"Dwi wedi'm harswydo a'm syfrdanu fod hyd at £20m yn cael ei wario ar ffordd liniau'r M4, a dwi'n gobeithio na chaiff byth ei wireddu," meddai.
Manylion y prosiect
Fel rhan o'r prosiect, byddai:
- ffordd newydd 15 milltir o hyd yn cael ei hadeiladu;
- traphont 1.5 milltir o hyd yn cael ei hadeiladu dros afon Wysg;
- a gwaith datblygu mawr ar gyffyrdd 23 a 29.
Y disgwyl yw y bydd y gwaith adeiladu'n dechrau yng ngwanwyn 2018.
Mae'r gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y prosiect, Edwina Hart, wedi amddiffyn y gost.
Ond bydd hi'n rhoi'r gorau i fod yn Aelod Cynulliad ar ddiwedd y tymor presennol ac mae Cymdeithas y Cyflogwyr, y CBI, wedi rhybuddio na ddylai'r prosiect golli stêm wedi iddi adael.
Wrth ymateb i feirniadaeth Ms Rathbone, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fel sy'n arferol pan yn ystyried prosiect isadeiledd o'r maint hwn, mae angen asesu sut i'w adeiladu, pa dir fydd ei angen a pha fesurau amgylcheddol fyddai'n cael eu cyflwyno.
"Mae gwariant 2015-16 yn cynnwys yr asesiadau hyn a phenodi tîm datblygu.
"Hefyd mae'n cynnwys y gwaith o ymgynghori â'r cyhoedd fel cynnal arddangosfeydd gwybodaeth."