Plaid am gael gwared â byrddau iechyd
- Cyhoeddwyd

Byddai Plaid Cymru'n cael gwared â byrddau iechyd Cymru petai'n ffurfio llywodraeth ar ôl etholiad y Cynulliad fis Mai nesaf.
Mae'r Blaid yn dweud y byddai gwaith ysbytai arbenigol dan gyfrifoldeb un corff cenedlaethol tra byddai gwaith meddygon teulu, gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd meddwl dan gyfrifoldeb awdurdodau lleol.
Mewn araith yng Nghaerdydd y prynhawn yma bydd llefarydd y blaid ar iechyd, Elin Jones, yn dweud y byddai'r newidiadau yn ei gwneud hi'n fwy eglur i gleifion ac yn lleihau oedi o fewn y gwasanaeth iechyd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai cynlluniau Plaid Cymru yn "torri'r GIG yn ddarnau gan gondemnio'r gwasanaeth iechyd i flynyddoedd o ad-drefnu bler, dryslyd a drud".
'Dim ffiniau'
Mae disgwyl i Elin Jones ddweud y bydd y cynllun yn golygu llai o frwydro am gyllid rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan "gael gwared â'r ffiniau gweinyddol sydd yn gwylltio'r staff a lleihau oedi diangen i gleifion."
Yn ôl Ms Jones: "Mae llywio eu ffordd trwy gymhlethdodau'r system iechyd a gofal cymdeithasol fel y mae ar hyn o bryd yn ddryslyd ac yn cymryd llawer o amser i gleifion, llawer ohonyn nhw mewn cyflwr bregus iawn.
"Mae angen i ni wneud i'r system weithio'n well ar eu rhan yn hytrach nac yn eu herbyn.
"Ac mae Plaid Cymru eisiau torri ymaith fiwrocratiaeth ddiangen a chyflwyno GIG Cymunedol fydd yn golygu bod gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl a gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu cyflwyno a'u hintegreiddio ar lefel leol."
'Un corff'
Yn benodol, mae'r cynlluniau'n golygu cael gwared â'r saith bwrdd iechyd lleol, gosod y cyfrifoldeb am gynllunio a rhedeg ysbytai acíwt ac arbenigol ar un Bwrdd Ysbytai Cenedlaethol, creu GIG Cymunedol fydd yn integreiddio gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl a gwasanaethau cymdeithasol ar lefel leol.
Awdurdodau lleol fydd yn cael y cyfrifoldeb arweiniol am reoli a chyflwyno GIG Cymunedol.
"Bydd creu Bwrdd Ysbytai Cenedlaethol yn caniatáu cynllunio cenedlaethol effeithiol tra'n cadw pob gwasanaeth mewn ysbytai," medd Ms Jones.
Dywed y bydd Plaid Cymru'n ymrwymo i amddiffyn gwasanaethau fydd yn achub bywydau o fewn cyrraedd awr i gleifion.
'Oedi hir'
"Bydd unrhyw un sydd wedi gorfod disgwyl i'w pecyn gofal cymdeithasol gael ei roi ar waith, neu sydd ag aelod o'r teulu fu'n rhaid symud o wasanaethau iechyd at ofal cymdeithasol, yn gwybod fod oedi hir yn digwydd yn aml tra'u bod yn aros i benderfyniadau biwrocrataidd gael eu cymryd.
"Trwy integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn, byddwn yn gwneud yn siŵr fod pobl yn cael y gofal mae arnyn nhw ei angen yn eu cymunedau.
"Bydd Plaid Cymru yn rhoi cleifion yn ôl wrth galon gwasanaethau, yn lle amddiffyn buddiannau tiriogaethol gwahanol gyrff."
Ymateb y llywodraeth
Wrth ymateb i gynlluniau Plaid Cymru, dywedodd llefarydd ar ran y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: "Mae'r hyn y mae Plaid yn ei gynnig yn ddim llai na thorri'r GIG yn ddarnau gan gondemnio'r gwasanaeth iechyd i flynyddoedd o ad-drefnu bler, dryslyd a drud gyda'r cynlluniau di-synnwyr hyn i roi rheolaeth uniongyrchol am drefnu gwasanaethau cymunedol, yn cynnwys meddygon teulu a gwasanaethau iechyd meddwl yn nwylo gwleidyddion lleol, yn union ar yr adeg pan ddylai arian gael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau llinell blaen.
"Mae cynlluniau Plaid yn golygu byddai penderfyniadau am wasanaethau ysbytai ddim yn cael eu gwneud mewn cymunedau lleol gan bobl leol sy'n atebol i'r boblogaeth leol; ond fe fyddai penderfyniad am Ysbyty Bronglais, er engraifft, yn cael ei wneud gan un bwrdd unigol yng Nghaerdydd. Byddai penderfyniadau am ysbytai yng ngogledd Cymru yn cael eu gwneud gan y bwrdd unigol yng Nghaerdydd."
Ychwanegodd y llefarydd: "Pan roedd Plaid mewn llywodraeth y tro diwethaf fe wnaeth weithio gyda'r blaid Lafur i ddod a therfyn ar yr hen rwygiadau rhwng ymddiriedolaethau ysbytai a byrddau iechyd lleol, nad oedd yn gweithio i bobl yng Nghymru, i greu byrddau iechyd integredig sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu holl wasanaethau gofal iechyd.
"Ond nawr mae Plaid yn mynu mynd a Chymru'n ôl i fethiannau'r gorffenol gan gynnig ad-drefnu trychinebus fydd yn tarfu ar y drefn bresenol a fydd yn arwain at ddiwedd y GIG fel yr ydym yn ei adnabod."