Hybu'r Gymraeg yng Nghastell-nedd
- Cyhoeddwyd

Mae masnachwyr yng Nghastell-nedd wrthi'n sefydlu cynllun cymunedol i gael mwy o bobl i siarad Cymraeg yn y dref.
Yr aelod cynulliad Suzy Davies, llefarydd y Ceidwadwyr ar ddiwylliant a'r iaith, sy'n arwain prosiect "Tipyn Bach, Tipyn Mwy".
Y gobaith yw creu awyrgylch o fewn caffis, siopau, tafarndai a busnesau eraill ar y stryd fawr lle gall dysgwyr neu siaradwyr Cymraeg llai hyderus deimlo'n gyfforddus wrth roi cynnig arni.
Fel dysgwraig ei hun, mae Ms Davies yn teimlo bod hyn yn holl-bwysig.
"Chawson ni ddim o'r siawns i ddysgu Cymraeg ein hunain pan o'n i'n ifanc", meddai, "ac felly mae cael y siawns i ddefnyddio beth sy gyda ni'n barod yn help mawr gyda'n hyder.
"Yn bersonol, dwi'n credu ei fod yn bwysicach defnyddio Cymraeg sydd ddim yn berffaith na ddim ei iwsio o gwbl."
Yn ôl Ms Davies, gallai'r cynllun fod o fudd economaidd i fusnesau hefyd.
"Mae yna fantais i fasnachwyr gael dwy iaith yn eu busnes dwi'n credu, yn arbennig gyda'r rhai sy'n delio â chwsmeriaid wyneb yn wyneb.
"Bydd lot mwy o alw am Gymraeg yn y dyfodol oherwydd beth sy'n digwydd yn y system addysg, felly mae'n rhaid cael rhywun sy'n gallu ymateb i'r galw."