Galw heddlu arfog wedi adroddiadau o ymosodiad
- Cyhoeddwyd

Cafodd Heddlu'r De eu galw i Stryd Baglan yn Nhreherbert yn Rhondda Cynon Taf am 18:55 ddydd Mercher yn dilyn adroddiadau o ymosodiad yno.
Cafodd heddlu arfog eu hanfon hefyd i sichrau diogelwch y cyhoedd.
Mae dyn 58 oed wedi ei arestio ac yn cael ei gadw'n y ddalfa.
Mae'r heddlu'n dweud nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae'r ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.