Trosedd a Chosb: Hoff lyfrau carcharorion Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Llyfr ymarfer corff, nofel boblogaidd gan yr awdur James Patterson, a llyfrau am droseddau oedd y cyhoeddiadau mwyaf poblogaidd ymysg carcharorion mewn carchar yn y de.
O'r 10,000 o gyhoeddiadau sydd ar gael i garcharorion yng ngharchar Caerdydd, y llyfr 'Essential Abs' oedd y mwyaf poblogaidd ers 2012.
Mae data'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos mai'r nofel dditectif 'Merry Christmas, Alex Cross' oedd y nofel fwyaf poblogaidd ymysg carcharorion.
Dywedodd y weinyddiaeth fod gwella llythrennedd ymysg carcharorion yn "hanfodol".
Cafodd y ffigurau eu rhyddhau yn dilyn Cais Rhyddid Gwybodaeth gan BBC Cymru, ac yn ôl y canlyniadau, cafodd 'Essential Abs' ei fenthyg 40 o weithiau gan 37 o garcharorion yn y carchar categori B yn 2013 ac eto yn 2014.
Nid oedd ffigurau ar gyfer carchardai eraill Cymru ar gael gan nad yw eu gwasanaethau llyfrgelloedd yn cofnodi pa mor aml y caiff cyhoeddiad ei fenthyg gan garcharorion.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Mae gan Lywodraethwyr yr hawl i gadw unrhyw lyfr y maen nhw'n credu sydd yn amhriodol.
"Fe ddylai carchardai gynnig cyfle i droseddwyr i gael sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd tu allan i'r carchar.
"Mae cynnig cyfleoedd addysgol a rhoi'r arfau angenrheidiol i garcharorion i wella eu llythrennedd yn hanfodol", ychwanegodd.
Hoff lyfrau carcharorion Caerdydd:
- Essential Abs - 40 benthyciad yn 2013, 40 benthyciad yn 2014
- Merry Christmas, Alex Cross - 34 benthyciad yn 2013, 18 benthyciad yn 2014
- Chasing Killers: Three Decades of Cracking Crime in the UK's Murder Capital - 21 benthyciad yn 2013
- Live by the Gun, Die by the Gun - 20 benthyciad yn 2014
- Chopper - 19 benthyciad yn 2013
- Crimes that Shocked the World: The Most Chilling True-life Stories from the Last 40 Years - 18 benthyciad yn 2013
- Crack House: The Incredible True Story of the Man Who Took on London's Crack Gangs and Won - 16 benthyciad yn 2014
- Gangs - 15 benthyciad yn 2014