Disgyblu athrawes o Wrecsam am werthu nwyddau
- Cyhoeddwyd

Mae athrawes ysgol gynradd wedi bod mewn gwrandawiad Cyngor y Gweithlu Addysg yn Ewlo wedi iddi gael ei dedfrydu'n euog o werthu nwyddau'n anghyfreithlon.
Cafodd yr achos yn ei herbyn ei brofi yn y gwrandawiad, ac fe gyfaddefodd i ymddygiad amhroffesiynol annerbyniol sydd yn disgyn islaw'r safon ddisgwyliedig i athrawon cofrestredig.
Clywodd y panel fod Hayley Batley, athrawes yn Ysgol Gynradd St Giles yn Wrecsam, wedi gwerthu gwahanol eitemau ar wefan E-bay yn groes i gyfraith masnachu rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2013.
Fe gysylltodd y BBC gyda hi ym mis Mehefin 2013 i'w rhybuddio ei bod yn masnachu'n anghyfreithlon wrth werthu nwyddau Dr Who ar ei gwefan.
Gofynnodd Batley am eglurhad gan y BBC ond cyn i'r gorfforaeth ymateb, fe roddodd nifer o nwyddau eraill ar werth ar ei gwefan.
Daeth ymchwiliad o hyd i 1600 o eitemau oedd wedi eu cofrestru'n fasnachol, ac roedd gwerthu'r eitemau oedd yn gysylltiedig â'r Beatles, y Rolling Stones a James Bond yn groes i gyfraith masnachu nwyddau oedd wedi eu cofrestru.
Cafodd hi ei rhyddhau'n amodol yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Tachwedd 2014 wedi iddi bledio'n euog i un cyhuddiad o werthu nwyddau oedd wedi eu cofrestru a saith cyhuddiad o gynnig nwyddau oedd wedi eu cofrestru ar werth.
Amhroffesiynol
Yn y gwrandawiad ddydd Iau cyfaddefodd gyhuddiad o ymddygiad amhroffesiynol annerbyniol ac wyth cyhuddiad arall o dorri rheolau gwerthu nwyddau oedd wedi eu cofrestru.
Clywodd y panel disgyblu fod yr athrawes wedi dweud wrth swyddogion Safonau Masnach nad oedd hi'n ymwybodol ei bod yn gwneud dim o'i le.
Roedd wedi dweud: "Rwy'n athrawes. Dyw athrawon ddim yn gwneud y math hyn o beth. Dydi rhywun ddim i fod i gael ei arestio."
Clywodd y panel fod yr athrawes wedi derbyn rhybudd terfynol ysgrifenedig gan yr ysgol mewn gwrandawiad disgyblu.