Annog cleifion i osgoi unedau brys wedi problem dechnegol
- Cyhoeddwyd

Mae cleifion yn cael eu hannog i ail-feddwl cyn ymweld ag unedau brys dau ysbyty yn ne Cymru wedi problem dechnegol.
Doedd cyfrifiaduron yn Ysbyty Brenhinol Gwent ddim yn gweithio am gyfnod ddydd Iau, felly fe gafodd cleifion eu hanfon i uned frys Ysbyty Neuadd Neville yn y Fenni.
Erbyn hyn, mae'r ddwy uned dan bwysau nifer "eithriadol" o bobl.
Mae'r bwrdd iechyd yn apelio ar i gleifion ddefnyddio gwasanaethau eraill.
Yn ôl llefarydd ar ran y bwrdd, mae gwaith atgyweirio yn mynd rhagddo "i leihau anghyfleustra i gleifion".