George North i ddechrau fel canolwr i wynebu Awstralia

  • Cyhoeddwyd
George NorthFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Y tro diwethaf i North ddechrau fel canolwr i Gymru oedd yn erbyn Ffrainc yn 2014

Bydd George North yn dechrau fel canolwr i Gymru i wynebu Awstralia yn Twickenham ddydd Sadwrn, wrth i Justin Tipuric gael cyfle i ddechrau.

Bydd Tipuric yn chwarae fel blaenasgellwr ochr agored, sy'n golygu bod y capten Sam Warburton yn symud i rif 6.

Mae Liam Williams yn ôl yn y tîm ar ôl methu'r gêm yn erbyn Fiji gydag anaf i'w ben, ond ar yr asgell fydd o'n chwarae wrth i Gareth Anscombe ddechrau fel cefnwr.

Disgrifiad,

Barn Gareth Charles, Gohebydd rygbi BBC Cymru, ar ddewisiadau Warren Gatland.

Mae Paul James yn cymryd lle Gethin Jenkins fel prop pen rhydd, gyda Jenkins na Dan Lydiate heb eu cynnwys yn y garfan o 23.

Chwe newid

Mae Warren Gatland wedi gwneud chwe newid, gyda Samson Lee yn dechrau fel prop pen tynn wrth i Tomas Francis symud i'r fainc.

Mae Luke Charteris yn ymuno ag Alun Wyn Jones yn yr ail reng wrth i Bradley Davies fethu hawlio'i le.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Dyma fydd ymddangosiad cyntaf Gareth Anscombe yng Nghwpan Rygbi'r Byd

Roedd pryderon am anafiadau i Lydiate a Davies, ac mae'n debyg nad yw Gatland eisiau cymryd y risg o'u chwarae, gyda Chymru eisoes wedi sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.

Fe wnaeth North chwarae fel canolwr yn erbyn Awstralia y llynedd - un o'r 10 gêm yn olynol i Awstralia drechu'r Cymry.

Bydd Alex Cuthbert yn ennill ei 40fed cap ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Awstralia yn 2011, ac mae Gareth Davies a Dan Biggar yn cadw eu llefydd fel mewnwr a maswr.

Bydd Anscome, gafodd ei eni yn Seland Newydd, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd, wedi iddo gael ei ffafrio dros James Hook fel cefnwr.

Disgrifiad o’r llun,
Samson Lee a Paul James sy'n cymryd lle Tomas Francis a Gethin Jenkins fel propiau

Folau yn holliach

Roedd anafiadau wedi golygu bod Awstralia wedi oedi ar gyhoeddi eu tîm, ond fe ddaeth y newyddion brynhawn Iau bod y cefnwr Israel Folau wedi gwella o anaf ac y bydd yn wynebu Cymru.

Ond mae Awstralia wedi gorfod gwneud dau newid i'r tîm drechodd Lloegr, gyda'r asgellwr Rob Thorne wedi'i anafu a'r blaenasgellwr Michael Hooper wedi'i wahardd.

Sean McMahon fydd yn cymryd lle Hooper, gyda Drew Michell i mewn am Horne.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Israel Folau wedi sgorio 18 o geisiau i Awstralia ers ei ymddangosiad cyntaf yn 2013

Cymru: Gareth Anscombe; Alex Cuthbert, George North, Jamie Roberts, Liam Williams; Dan Biggar, Gareth Davies; Paul James, Scott Baldwin, Samson Lee, Luke Charteris, Alun Wyn Jones, Sam Warburton (capten), Justin Tipuric, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Ken Owens, Aaron Jarvis, Tomas Francis, Jake Ball, Ross Moriarty, Lloyd Williams, Rhys Priestland, James Hook.

Awstralia: Israel Folau; Adam Ashley-Cooper, Tevita Kuridrani, Matt Giteau, Drew Mitchell; Bernard Foley, Will Genia; Scott Sio, Stephen Moore (capten), Sekope Kepu, Kane Douglas, Dean Mumm, Scott Fardy, Sean McMahon, David Pocock.

Eilyddion: Tatafu Polota-Nau, James Slipper, Greg Holmes, Rob Simmons, Ben McCalman, Nick Phipps, Matt Toomua, Kurtley Beale.

Gallwch ddilyn y gêm yn fyw ar lif byw Cymru Fyw o 16:15 ddydd Sadwrn, ac am fwy o gyffro Cwpan Rygbi'r Byd ewch i'n is-hafan arbennig.