Cynghorau Cymru'n ailgylchu mwy nag erioed

  • Cyhoeddwyd
ailgylchu

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod mwy o awdurdodau lleol nag erioed yng Nghymru yn cyrraedd eu targedau ailgylchu.

Yn ôl ffigurau ar gyfer 2014/15 gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau, mae awdurdodau lleol Cymru rhyngddynt wedi maeddu'r targed ailgylchu o 52%, gan sicrhau cyfradd ailgylchu o 56.2% - cynnydd o 1.9% o'i gymharu â'r flwyddyn gynt.

Mae'r cynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn y niferoedd sy'n ailgylchu gwastraff yng Nghymru yn parhau, gyda chyfraddau ailgylchu heddiw wyth gwaith yn fwy na'r 7% yn 2000/01.

Mae adroddiad 2014/15 y Cynllun Lwfansau Tirlenwi (LAS), a gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau, yn dangos bod awdurdodau lleol yn parhau hefyd i anfon llawer llai o wastraff trefol sy'n pydru i safleoedd tirlenwi.

Cafodd 256,162 o dunelli o wastraff sy'n pydru eu hanfon i safleoedd tirlenwi yn 2014/15 o'i gymharu â 345,022 o dunelli yn 2013/14, gostyngiad o 26%.

Ers i'r cynllun ddechrau yn 2004, mae awdurdodau lleol Cymru yn anfon 70% yn llai o wastraff bioddiraddadwy i safleoedd tirlenwi.

'Ailgylchwyr gorau'r DU'

Wrth groesawu'r ffigurau newydd, dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant:

"Rwy'n llongyfarch pobl ac awdurdodau lleol Cymru am y llwyddiant campus hwn, ac yn diolch iddynt am eu hymrwymiad i ailgylchu mwy ac i anfon llai o wastraff i domenni sbwriel nag erioed, gan olygu mai ni yw ailgylchwyr gorau'r Deyrnas Unedig o hyd.

"Bu'r gamp yn bosib diolch i'r bartneriaeth gref rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ledled Cymru."