Gareth Charles
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Tîm Cymru i wynebu Awstralia yn cyffroi Gareth Charles

9 Hydref 2015 Diweddarwyd 08:30 BST

Mae Warren Gatland wedi gwneud chwe newid i'r tîm fydd yn wynebu Awstralia yn Twickenham ddydd Sadwrn.

Bydd George North yn dechrau fel canolwr tra bydd Justin Tipuric yn chwarae fel blaenasgellwr ochr agored, sy'n golygu bod y capten Sam Warburton yn symud i rif 6.

Mae Liam Williams yn ôl yn y tîm ar ôl methu'r gêm yn erbyn Fiji gydag anaf i'w ben, ond ar yr asgell fydd o'n chwarae wrth i Gareth Anscombe ddechrau fel cefnwr.

Mae Paul James yn cymryd lle Gethin Jenkins fel prop pen rhydd, gyda Jenkins na Dan Lydiate heb eu cynnwys yn y garfan o 23.

A bydd Samson Lee yn dechrau fel prop pen tynn wrth i Tomas Francis symud i'r fainc.

Mae Luke Charteris yn ymuno ag Alun Wyn Jones yn yr ail reng wrth i Bradley Davies fethu hawlio'i le.

Dyma farn Gareth Chalres, Gohebydd rygbi BBC Cymru, ar ddewisiadau mentrus Warren Gatland.