Sefydliad y glowyr yn cau ei ddrysau

  • Cyhoeddwyd
Sefydliad CwmamanFfynhonnell y llun, Jaggery/Geograph
Disgrifiad o’r llun,
Glowyr lleol oedd wedi cyfrannu at gost adeiladu'r sefydliad

Mae sefydliad y glowyr yng Nghwm Cynon yn cau ei ddrysau am y tro olaf wedi perfformiad theatr yng Nghwmaman, Aberdâr, nos Wener.

Cafodd yr adeilad ei godi yn 1892 oherwydd cyfraniadau glowyr lleol ac roedd yn adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cymdeithasu ac addysgu.

Yn 2001 cafodd bron £4 miliwn o arian loteri er mwyn ei adnewyddu ond erbyn hyn, gyda llai o ddefnydd mae'n wynebu colledion o dros £1 miliwn.

Mae nifer o bobl leol yn cyfeirio at y ffaith mai dyma le perfformiodd y Stereophonics rai o'u cyngherddau cyntaf.

'Rhaid rhoi'r gorau iddi'

Dywedodd Gary Neal, un o'r ymddiriedolwyr a chyfarwyddwr Cwmni Theatr Cwmaman: "Ar un adeg roedd dros 40 o gymdeithasau yn defnyddio'r adeilad ond erbyn hyn dim ond tua chwech sy' ar ôl.

"Mae'n siomedig na allwn ni gwrdd â'r gost ond gan nad yw hynny'n bosib mae'n rhaid rhoi'r gorau iddi. Mae mor syml â hynny."

Disgrifiad o’r llun,
Y Stereophonics yn chwarae yng Nghwmaman yn 2007

Roedd y ganolfan yn bwysig yn hanes diweddar yr ardal.

Yn ystod Streic y Glowyr yn 1984-85 roedd yn fan dosbarthu bwyd i deuluoedd y glowyr oedd ar streic.

Dywedodd Joanne Powells, sy'n byw yn y pentre', y byddai yna fwlch mawr wedi i'r adeilad gau.

"Unwaith y cafodd y penderfyniad ei wneud doedd dim llawer y gallwn ni ei wneud. Dyw'r arian ddim ar gael."

Dywedodd fod yna nifer o bobl yn ddi-waith yn yr ardal a byddai colli'r adnoddau'n ergyd arall iddyn nhw.

Mae'r ymddiriedolwyr yn gobeithio y bydd yr adeilad yn ailagor ac wedi gwneud sawl cais i wahanol gyrff am gymorth.