Cau'r A55 dros nos am naw wythnos i gwblhau gwaith

  • Cyhoeddwyd
Twnel PenmaenbachFfynhonnell y llun, Google

Bydd twnel ar un o ffyrdd prysuraf Cymru ar gau dros nos am hyd at naw wythnos er mwyn cwblhau gwaith adnewyddu gwerth £42m.

Bydd twnel Penmaenbach ar yr A55 ar gau dros nos a dim ond un lôn i gyfeiriad y gorllewin fydd ar agor yn ystod y dydd o 18 Hydref ymlaen.

Mae goleuadau newydd wedi eu gosod yn nhwneli Conwy a Phen-y-Clip.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, y byddai'r gwaith yn lleihau'r angen i gau'r twneli yn y dyfodol.