Ffyrdd Cymru: Gwariant isa ers 11 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Mae gwariant cynghorau lleol Cymru ar briffyrdd a ffyrdd wedi gostwng i'w lefel isaf ers 11 mlynedd.
Yn 2014-15 cafodd tua £171.8 miliwn ei wario hyd fis Ebrill, £18 miliwn yn llai na 2013-14.
Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae llai na 12% o ffyrdd mewn cyflwr gwael sy'n "anhygoel" o gofio'r pwysau ar gyllidebau.
Dywedodd llefarydd mai'r amcangyfri oedd y byddai cynghorau Cymru'n wynebu diffyg o fwy na £900 milwn erbyn 2019-20.
"Yn anffodus, bydd yn fwy anodd i gynghorau gadw lefelau buddsoddi ...," meddai.
Mae cynghorau Cymru yn gyfrifol am 32,000 o gilomedrau neu 95% o ffyrdd Cymru.
Llwyddodd cynghorau Conwy, Gwynedd, Casnewydd a Sir Fynwy i wario ychydig mwy ar ffyrdd.
Gostyngodd gwariant Cyngor Powys ar briffyrdd £11.4 miliwn i £7.4 miliwn - ac mae'r cyngor yn dweud eu bod yn wynebu toriad arall o £6.2 miliwn.