Canu clodydd y Cymry sy'n llwyddo
- Published
Mae llwyddiant diweddar athletwyr a thimau chwaraeon Cymru wedi bod yn gymorth i hybu proffil y wlad ledled y byd, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Daw sylwadau Carwyn Jones ar drothwy penwythnos o chwaraeon, wrth i dîm rygbi Cymru herio Awstralia yng Nghwpan y Byd, a'r tim pel-droed deithio i Bosnia & Herzegovina i geisio ennill eu lle yn Euro 2016.
Dyna fyddai ymddangosiad cyntaf Cymru yn un o'r prif bencampwriaethau ers 1958.
Dywedodd: "Mae Cymru wedi llwyddo i ddenu nifer o brif ddigwyddiadau chwaraeon y byd dros y degawd diwethaf - y gemau Olympaidd a Pharalympaidd, Cyfres y Lludw, Cwpan y Byd, ffeinal Cynghrair y Pencampwyr, Rali GB, ffeinal Cwpan Heineken, a Chwpan Ryder, ymysg eraill.
"I wlad o dair miliwn o bobl, mae hynny'n llwyddiant rhagorol."
'Yn beth cyffredin'
Ychwanegodd ei fod wrth ei fodd yn gweld Cymry'n llwyddo mewn amryw i faes ym myd chwaraeon rhyngwladol. "Mae'n amser gwych i fod yn gefnogwr chwaraeon yng Nghymru," meddai.
"Mae llwyddiant yn y prif gampau a digwyddiadau yn golygu mwy o ymwelwyr a chefnogwyr, sydd yn ei dro yn helpu i lenwi gwestai, bwytai a thafarndai - mae'r manteision masnachol yn fwy nag erioed.
"Wrth i'n llwyddiant yn y byd chwaraeon godi'n proffil, mae delwedd Cymru'n well nag erioed. Mae llwyddiant Cymru ar lwyfan y byd yn prysur ddod yn beth cyffredin, ar y maes chwarae a thu hwnt."