Cynllun yn cofnodi hanes Hiraethog
- Cyhoeddwyd

Mae cymunedau yn ardal Hiraethog yn Sir Ddinbych yn brysur yn ymchwilio i hanes eu pentrefi fel rhan o gynllun Cynefin. Mae cynllun Cynefin, sy'n cael ei gynnal ar hyd a lled Cymru, yn digideiddio mapiau Degwm Cymru, sydd yn dangos sut yr oedd Cymru yn yr 1840au tra roedd y rheilffyrdd yn lledaenu ar hyd y wlad.
Mae modd gweld y mapiau Degwm ar wefan arbennig, lle mae modd i'r cyhoedd gynnig cymorth yn y broses archifo.
Dywedodd swyddog prosiect cynllun Cynefin Samantha Jones: "Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i gymunedau lleol i ddysgu mwy am ble maen nhw'n byw yn ystod y cyfnod pan roedd y mapiau'n cael eu creu trwy ddefnyddio eu harchifau lleol.
"Adnoddau gwych"
"Mae archifau'n adnoddau gwych o ddeunydd gwreiddiol sydd yn ein helpu i ddeall mwy am sut beth oedd byw mewn pentrefi fel Llansannan yn ystod canol yr 1800au."
Mae pobl yng nghymunedau Hiraethog yn edrych o'r newydd ar fywydau pobl oedd yn byw yn yr ardaloedd hyn, o'r teulu tlotaf i'r cyfoethocaf. Gan ddefnyddio gwefannau pori hanes teuluol maen nhw wedi dod o hyd i hanes y bobl oedd yn byw mewn cartrefi penodol yn ystod y degawdau rhwng 1841 a 1911.
Speculum Gregis
Fel rhan o'r cynllun mae pobl wedi bod yn astudio dogfennau gwreiddiol sydd wedi dod i olau dydd yn yr archifau lleol. Cafodd un ddogfen o'r fath ei dadorchuddio - dogfen o'r enw 'Speculum Gregis' gafodd ei hysgrifennu gan R H Jackson, oedd yn giwrad pentref Llansannan.
Mae'r llyfr yn rhoi blas ar fywyd yn y pentref yn 1850 ac yn cynnwys manylion am ficeriaid y plwyf a nifer y bobl oedd yn mynd i'r eglwysi lleol ar y pryd. Mae hefyd yn cynnwys map lliwgar o'r pentref gydag enwau'r bobl oedd yn byw yn y tai yno, gan gynnwys eu hoedran a'u swyddi.