Wythnos troseddau casineb yn dechrau
- Cyhoeddwyd

Bydd Wythnos Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yn dechrau ddydd Sadwrn.
Drwy gydol yr wythnos, bydd partneriaid ar draws Cymru yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ac i annog bod achosion o drosedd casineb yn cael eu hadrodd. Byddant hefyd yn hyrwyddo'r gwasanaethau cymorth ac adnoddau sydd ar gael yn lleol.
Mae troseddau casineb yn droseddau yn erbyn unigolyn neu grŵp o bobl ar sail eu hunaniaeth neu eu gwahaniaeth. Gall fod yn weithred o drosedd, gelyniaeth neu wahaniaethu. Efallai y bydd dioddefwyr wedi cael eu bwlio, eu haflonyddu neu eu cam-drin oherwydd pwy ydynt, eu rhywioldeb, eu rhyw, crefydd, ethnigrwydd neu ddewis ffordd o fyw.
Trosedd
Gall trosedd casineb fod ar lafar, ar ffurf graffiti tramgwyddus, bygythiadau, difrod i eiddo, ymosodiad, seibr-fwlio, negeseuon testun sarhaus, negeseuon e-bost neu alwadau ffôn.
Yn rhan o ymgyrch genedlaethol Llywodraeth Cymru yn ystod yr wythnos, mae Cyngor Sir y Fflint wedi dod ynghyd â'i bartneriaid i dynnu sylw at y broblem o droseddau casineb.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Wastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: "Derbynnir yn gyffredinol nad oes digon o adrodd am achosion o droseddau casineb a gall gael effaith sylweddol ar ei ddioddefwyr, a ni ddylent orfod dioddef yn dawel.
"Rwy'n falch bod Cyngor Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn ceisio codi proffil y mater pwysig hwn."