Colli 80 o swyddi ym Merthyr
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Sekisui Alveo o Japan yn bwriadu cau eu ffatri ym Merthyr Tudful a symud y gwaith cynhyrchu i'r Iseldiroedd.
Fe fydd y safle ym Merthyr, sy'n cyflogi 80 ac yn cynhyrchu nwyddau ar gyfer y diwydiant adeiladu, yn cau yn 2018.
Fe wnaeth y cwmni ddechrau ymgynghori ar 4 Medi.
Dywedodd Alan Gunter, un o reolwyr y safle ym Merthyr, fod y penderfyniad wedi bod yn un anodd.
"Rydym yn ymwybodol fod hwn yn amser anodd i'r gweithlu ym Merthyr a byddwn yn gwneud popeth i'w cefnogi nhw a'u teuluoedd wrth i'r safle gael ei ddadgomisiynu."